ⓘ Gallwn gynnig gwasanaeth Cyfieithu ar y Pryd dros Zoom / Teams os hoffech chi barhau i gynnal eich cyfarfodydd drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod heb ei debyg hwn. Cysylltwch gyda ni drwy anfon e-bost at post@cyfieithucymunedol.org neu ffonio 01492 642 796 i drefnu.
Mae Cyfieithu Cymunedol yn wasanaeth Cyfieithu Cymraeg / Saesneg proffesiynol sy’n mynd o nerth i nerth. Fe’n sefydlwyd yn 2003, ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfieithu, rydym ni’n fenter gymdeithasol, gydweithredol nid er elw.
Ein gweledigaeth ydy cydweithio ar lawr gwlad gyda busnesau, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol er mwyn cynnig gwasanaeth cyfieithu mwy hwylus a fforddiadwy.
Mae dwy brif agwedd i’n gwaith, sef cyfieithu testun a chyfieithu ar y pryd. Ein nod wrth gyfieithu dogfennau ydy llunio darn o waith sy’n darllen fel testun gwreiddiol yn hytrach na chyfieithiad. Ein nod wrth gyfieithu ar y pryd ydy rhoi cyfle i siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg ddod ynghyd a chymdeithasu â’i gilydd yn eu hiaith gyntaf mewn awyrgylch braf a chyfeillgar. Rydym ni’n cynnig amryw o wasanaethau eraill i ategu’r rhain.
Rydym ni’n rhannu swyddfa â Menter Iaith Conwy yn Llanrwst, tref marchnad hanesyddol yn Nyffryn Conwy sydd ar odre Eryri.
❝
Mae Grŵp Cynefin yn falch o dderbyn gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o safon gan Cyfieithu Cymunedol Conwy mewn amrywiol gyfarfodydd a gynhelir yn lleol i ardal Sir Conwy.
- Grŵp Cynefin
❝
The service provided is always to a consistently high standard and it is a continued pleasure to work with your organisation.
- 360 Signs Ltd
Eluned Rhiannon
Bu i Eluned dreulio cyfnodau o brofiad gwaith gyda chwmnïau Cyfieithu yn ystod ei hamser yn yr Ysgol Uwchradd a’r Brifysgol. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn 2010 cyn derbyn ei swydd gyntaf fel Cyfieithydd dan Hyfforddiant gyda Cyfieithu Cymunedol. Erbyn hyn mae hi’n gyfrifol am amryw dasgau ar ran y cwmni ynghyd â gwaith cyfieithu.
Mae hi’n mwynhau teithio a gwylio cerddoriaeth fyw ac yn aml yn cyfuno’r ddau beth drwy deithio i wyliau a gigiau ymhob cwr o Gymru a Lloegr a hyd yn oed gweddill y byd ar adegau! Mae Eluned hefyd yn hoff o weithgareddau awyr agored ac yn ddiweddar bu iddi droi ei llaw at ddringo.
Dwysan Roberts
Astudiodd Dwysan y Gymraeg a’r Ffrangeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe raddiodd hi yn 2015 cyn ymuno â Chyfieithu Cymunedol yn syth wedyn.
Fe dreuliodd Dwysan flwyddyn dramor yn Ffrainc fel rhan o’i chwrs lle bu hi’n gweithio fel cymhorthwraig Saesneg mewn dwy ysgol uwchradd. Fe wnaeth y profiad hwn, a diddordeb Dwysan mewn ieithoedd gwahanol, ei hannog tuag at yrfa yn y maes cyfieithu. Ei huchelgais nesaf yw dysgu Sbaeneg.
❝
Mae’r gwasanaeth a dderbynir gan Cyfieithu Cynunedol yn ragorol.
- Cyngor Tref Dinbych
1 – Rydym ni’n gweithio’n gyflym
Gyda thîm o bedwar a rhwydwaith eang o gyfieithwyr llawrydd, fe allwch chi ddibynnu arnom ni i ddychwelyd eich gwaith mewn pryd – ac yn gynt na’r disgwyl weithiau.
2 – Rydym ni’n dda gyda geiriau
Rydym ni’n dîm o grefftwyr geiriau ac arbenigwyr iaith sy’n ceisio llunio darn o destun fydd yn denu sylw eich cynulleidfa. Nid cyfieithu geiriau yn unig ydym ni. Rydym ni’n cyfieithu ystyr a naws gan weithio ar rythm a llif brawddeg er mwyn llunio cyfieithiad naturiol sy’n taro deuddeg gyda’ch darllenydd. Wedi’r cwbl – onid dyna ydy hanfod iaith - cyfathrebu?
3 – Rydym ni’n broffesiynol
O’ch galwad ffôn neu’ch e-bost gyntaf hyd i ni ddychwelyd eich gwaith, byddwn yn cydweithio â chi i gwrdd â’ch union ofynion gan gynnig y gwasanaeth gorau posib.
4 – Rydym ni’n cynnig gwerth am arian
Gyda’n model busnes unigryw fe allwn ni gynnig cyfieithiadau fforddiadwy i gleientiaid y sector cymunedol a gwirfoddol gan barhau i gynnig gwerth arbennig am arian i’n cwsmeriaid masnachol hefyd.
5 – Mae gennym ni weledigaeth gymdeithasol
Chawsom ni mo’n sefydlu er budd rhanddeiliaid na chyfarwyddwyr. Fe’n sefydlwyd ni yn hytrach i gyflawni gweledigaeth gymdeithasol:
❝
Really helpful & quick response back.
- Frederic Robinsons Brewery